Cyn i'r Lle 'ma Gau

Tyrd i mewn i'r tŷ, 'stedda lawr, tyrd i mewn o'r gwynt a'r glaw
Hafan ydi hon, i'r gair, i'r gân ar gwpan llawn
Mae cerdd yn yr aer ac alawn yn muriau
A thân yn ein gwaed fel ein cyn-deidiau
Canwn gân, o. cyn i'r lle 'ma gau

Tyrd i mewn i'r tŷ, lle mae'r gwîr yn llifo fel y gwîn
Teimlad sydd mor hên, ar y wên. ar cerrig prin a'r prîdd
Mae'n llifo'n rhwydd trwy dy wythiennau
Doed pawb i'r fan croesffordd eneidiau
Canwn gân, o. cyn i'r lle 'ma gau

Os wyt ti ar goll yn y byd, heb run cyffaill ffeind na ffydd
Mae heddwch meddwl mwyn ai hôll swyn ar gael ar ben y strŷd
Mae'n llifo'n rhwydd trwy dy wythiennau
Doedd pawb i'r fan croesffordd eneidiau
Canwn gân, o. cyn i'r lle 'ma gau. ie.hei

Tyrd i fewn i'r tŷ ata ni, tyrd yn nes at wrês y bâr
A chodwn ein gwydrau fry, at y nen. a chŷd seiniwn iechyd da
Mae cerdd yn yr aer ac alawn y muriau
A thân yn ein gwaed fel ein cyn-deidiau
Canwn gân, cyn i'r lle 'ma gau



Credits
Writer(s): Gwilym Bowen Rhys, Sion Meiron Owens, Tomos Meiron Owens, Robin Llwyd Jones
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link