Hen wlad fy nhadau (Land of My Fathers)

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd
Tros ryddid gollasant eu gwaed

Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau
O bydded i'r hen iaith barhau

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i fi

Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau
O bydded i'r hen iaith barhau

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad
Na thelyn berseiniol fy ngwlad

Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau
O bydded i'r hen iaith barhau

Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau
O bydded i'r hen iaith barhau



Credits
Writer(s): Traditional, Steven James Brown
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link