Mwy Nag Angel

So' i'n mynd i shafo am w'thnos fach
Na na, no we!
Rhyddid i 'marf i am w'thnos fach
Hwre, we-hei!

Ma'r haul yn mynd lawr ar Johannesburg
fel wnaeth ers cyn co'
Ma'n dal i godi'n y bore bach
Fel 'se Duw yn bod

Wedi blino ar bobl 'fo bywyd yn un ymddiheuriad
Wastad yn coethan am rwbeth ma'n dod o bob cyfeiriad
Ma'n nhw'n drysu fy mhen

Gwell 'da fi fod yn daten
a byw o dan y ddaear
Gwell 'da fi fod yn daten
a byw o dan y ddaear

Planna'r tatws 'na de!

Ma' bywyd fel hyn jyst yn fywyd cu
Uh-huh, bow-wow
Ma'r byd yn dibynnu ar bedigree
U-huh, ruff ruff!

Wedi blino ar bobl 'fo bywyd yn un ymddiheuriad
Wastad yn crafu am rwbeth, byw dros ymgyrhaeddiad
Un poen yn y pen

Lot gwell 'da fi fod yn daten
a byw o dan y ddaear
Man a man 'fi fod yn daten
a byw o dan y ddaear

Be sy'n bod ar fod yn daten?
Rhwng y moron a'r mwyar?
Lot i weud dros fod yn daten
a byw o dan y ddaear

O! Isho bod yn daten
a byw o dan y ddaear
Moyn bod yn daten
a byw o dan y ddaear

Moyn bod yn daten
'Sneb yn becso taten!



Credits
Writer(s): Huw Chiswell
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link