Ty'r Ysgol - T.H.Parry Reprise

Ydwi'n disgyn lawr y twll ar wylod y stryd?
Dwi'n cofio rhybudd, ond dwi'm yn cofio pwy a phryd
Ma' nhw'n gofyn, just rhag ofn
Ailadrodd, drosodd a drosodd

Dim addysg, dim dyfodol
Mae o'n feddylfryd gwirion
Does dim ffor', dim ffor' yn nol
Pa mor ddyfn yw y ffynon?

Cyfeiriada i dy'r ysgol yw'r unig beth a ddysgais i
Dwi misho gwbod am hynny na pa mor wych yw Rhyd Ddu
Ma nhw'n ofn, just gofyn
Drosodd a drosodd, ailadrodd

Dim addysg, dim dyfodol
Mae o'n feddylfryd gwirion
Does dim ffor', dim ffor' yn nol
Pa mor ddyfn yw y ffynon?

Paid a even dechra cymlethu petha'n bellach
Dwi'n gwbo fo' chdi yn trio neud fi sbio'n gliriach
Ond wrth guddiad y gwir a cadw'r iau ar eich glin
Ddoth o'n amlwg bod y gwir yn darganfod ei hun heb edrach
So stopiwch fod yn flin a trin eich hun fel brenin
Y byd lle dosna neb yn gwbo' callach

Amsar yn ehangu
Petha' yn gwahanu
Pobl yn pryderu
Yr holl betha sy'n mynd trw' mhen i



Credits
Writer(s): Pasta Hull
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link