Y Bluen Eira

Be sy'n digwydd dywed
Be ddoth o'r cudd-le
Pwy sy'n codi o'r geg
Sy'n brathu nôl yn anheg
Yn hollti y dymuniad

Pwy sy'n pwyso fy mhen
Tyrd a'r bluen wen
Fi di, fi di'r heddwchwr
Mewn stryd o sêr
Tyrd a'r bluen eira, tyrd a'r bluen

Coda'r graig o'r dwr
Does dim tyfiant o'r stwr
Dyma'r atgyfodiad o hynny a ddyled
Dyled ei gladdu

Pwy sy'n rhwygo fy mhen
Tyrd a'r bluen wên
Pwy sy rhaid eu aberthu
Pwy sy rhaid ei nerthu
I ddilyn, dilyn deugryn

Be sy'n digwydd dywed

Drych mîl o ffenestri'n siarad
Mae'n hawdd i orwedd yn dy freichiau
A cau y lleni, a cau bwlch y noson
Dyma'r daith i'r ymylion, dyma'r dibyn o ein sgwrs
Trwm yw y diffeithiwch
A trwm yw ein difetha ni
Trwm yw y diffeithiwch
A trwm yw ein difetha ni



Credits
Writer(s): Rhydian Davies, Rhiannon Bryan
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link