Alwyn Onn

Yn Nyffryn Llwyn Onn draw mi welais hardd feinwen
A minnau'n hamddena 'rol byw ar y don
Gwyn ewyn y llu oedd ei gwisg, a disgleirwen
A'r glasfor oedd llygaid Gwen harddaf Llwyn Onn

A ninnau'n rhodiana drwy'r lonydd i'r banna
Sibrydem i'n gilydd gyfrinach byd serch
A phan ddaeth hi'n adeg farwelio a'r wiwdeg
Roedd tannau fy nghalon yng ngofal y ferch

Cyn dychwel i borthladd wynebwn y tonnau
Ond hyfryd yw'r hafan 'rol dicter y don
Bydd melys anghofio her greulon y creigiau
Un felly o'wn innau 'rol cyrraedd Llwyn Onn

A thawel mordwyo wnaf mwyach a Gwenno
Yn llong fach ein bwthyn a hi wrth y llyw
A hon fydd yr hafan ddiogel a chryno
I'r morwr a'i Wenno tra byddwn ni byw



Credits
Writer(s): Traditional, Mansel Thomas, Gerallt Jones, Thomas (dp) Oliphant
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link