Dawnsia

Bellach dw i'n ugain oed
Di tyfu mewn i'n nghroen
Di blasu be di byw
Di teimlo bach o boen
A yndw dw i dal yma
Nid y cynta nac yr ola!
Dw i'n cerdded mewn i Tafs
A dir jyst ddim r'un fath ag odd o, ond ella 'na fi dio?
Bwyda fi drwy dy lygad nydwydd
Pwytha fi fod yn hen fel newydd

Hi di'r un sy'n dysgu fi
Atgoffa fi i wenu a dal i weiddi

Dawnsia, dawnsia!
Dawnsia nes dy fod dy draed di'n rhydd
Ti yw pwy wti, ar ddiwedd y dydd
Dawnsia, dawnsia!
Dawnsia nes dy fod dy draed di'n rhydd
'Sa neb yn dy weld di
Ar ddiwedd y dydd

Gwranda, paid rhoi bai ar y lle
Nid y rhai ti'n cofio deutha fi?
Dwi'n cofio deutha chdi
Dwi'n gweld ti'n annodd coelio
Ond yn haws byth anghytuno
Ac ar ôl ystyriad
Yr un hen sefyllfa
O lle'r aeth yr ysfa am gwestiynau?
Buan ydw innau'n sylwi
Doedd na'm rheswm i mi boeni

Hi di'r un sy'n dysgu fi
Atgoffa fi i wenu a dal i weiddi

Dawnsia, dawnsia!
Dawnsia nes dy fod dy draed di'n rhydd
Ti yw pwy wti, ar ddiwedd y dydd
Dawnsia, dawnsia!
Dawnsia nes dy fod dy draed di'n rhydd
'Sa neb yn dy weld di
Ar ddiwedd y dydd

Hi di'r un sy'n dysgu fi
Atgoffa fi i wenu a dal i weiddi

Dawnsia, dawnsia!
Dawnsia nes dy fod dy draed di'n rhydd
Ti yw pwy wti, ar ddiwedd y dydd
Dawnsia, dawnsia!
Dawnsia nes dy fod dy draed di'n rhydd
'Sa neb yn dy weld di
Ar ddiwedd y dydd

Bellach dwi'n ugain oed
Di tyfu mewn i nghroen
Di blasu be di byw
Di teimlo bach o boen
Dwi'n gwbl euog
Dw i'n gor-feddwl o hyd
Cael i drwbl wrth i feddwl
Na 'mond fi sy'n y byd



Credits
Writer(s): Sion Gwilym Roberts, Rhys Owain Edwards, Huw Tomos Harvey
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link