Bonheddwr Mawr O’r Bala

Bonheddwr mawr o'r Bala
Rhyw ddiwrnod aeth i hela
Ar gaseg denau ddu
Ar gaseg denau ddu
Ha-ha-ha-ha-ha
Ha-ha-ha-ha-ha
Ar gaseg denau ddu

Carlamodd yr hen gaseg
O naw o'r gloch tan ddeuddeg
Heb unwaith godi pry
Heb unwaith godi pry
Ha-ha-ha-ha-ha
Ha-ha-ha-ha-ha
Heb unwaith godi pry

O'r diwedd cododd lwynog
Yn ymyl tŷ cymydog
A'r corn a roddodd floedd
A'r corn a roddodd floedd
Ha-ha-ha-ha-ha
Ha-ha-ha-ha-ha
A'r corn a roddodd floedd

Yr holl fytheid redasant
A'r llwynog coch ddaliasant
Ond ci rhyw ffermwr oedd
Ond ci rhyw ffermwr oedd
Ha-ha-ha-ha-ha
Ha-ha-ha-ha-ha
Ond ci rhyw ffermwr oedd

Wrth fynd yn ôl o'r hela
Daeth y bonheddwr tila
I groesi hen bont bren
I groesi hen bont bren
Ha-ha-ha-ha-ha
Ha-ha-ha-ha-ha
I groesi hen bont bren

Ond chana i ddim chwaneg
Fe syrthiodd efo'i gaseg
I'r afon dros ei ben
I'r afon dros ei ben
Ha-ha-ha-ha-ha
Ha-ha-ha-ha-ha
I'r afon dros ei ben



Credits
Writer(s): Traddodiadol
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link