Rhwng y Coed

Be sy'n cuddio rhwng y coed
Pwy sy'n cofio geiriau ddoe
Dewch gyda ni ar ein taith
I alw ar ofalwyr iaith

Jac y Do, Ji-binc a Dryw
Ffarwel yr Haf yn cynnig ei liw
Croeso'r Gwanwyn a bysedd y cŵn
Y sgrech, y Pibydd yn cynnig ei sŵn

Be sy'n cuddio rhwng y coed
Pwy sy'n cofio geiriau ddoe
Dewch gyda ni ar ein taith
I alw ar ofalwyr iaith

Glas y Dorlan, Delor y Cnau
Helygen drist a'i dagrau
Enwau'n llifo, golchi ffwrdd
A nawn ni unwaith eto cwrdd

Be sy'n cuddio rhwng y coed
Pwy sy'n cofio geiriau ddoe
Dewch gyda ni ar ein taith
I alw ar ofalwyr iaith

Bedwen arian, tresi aur
Trysorau prin, cyfrinach y saer
Ffrwythau coll yng ngeirfa'r ardd
Ei lleisiau'n sibrwd yng nghlust y bardd

Be sy'n cuddio rhwng y coed
Pwy sy'n cofio geiriau ddoe
Dewch gyda ni ar ein taith
I alw ar ofalwyr iaith

Caru'r hyn a welwn
Ond ei enwau'n gudd

O-o nâd fi'n angof (O-o nâd fi'n angof)
O-o nâd fi'n angof (O-o nâd fi'n angof)
O-o nâd fi'n angof gad fi'n rhydd

Be sy'n cuddio rhwng y coed
Pwy sy'n cofio geiriau ddoe
Dewch gyda ni ar ein taith
I alw ar ofalwyr iaith

Be sy'n cuddio rhwng y coed
Pwy sy'n cofio geiriau ddoe
Dewch gyda ni ar ein taith
I alw ar ofalwyr iaith



Credits
Writer(s): Eve Sarah Goodman, Sarah Louise Sarnacki Owen
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link