Deryn Y Bwn

Deryn y bwn o'r Banna
Aeth i rodio'r gwylia
Lle disgynodd o?
Ar ei ben
Ar ei ben
Bwm bwm
Bwm bwm
Ond i bwn o fala

Deryn y bwn a gododd
Y fala i gyd a gariodd
Tros y Banna i farchnad Caer
Marchnad Caer
Bwm bwm
Bwm bwm
Ac yno'n daer fe'u gwerthodd

Fala, fala filoedd
Fala melyn laweroedd
Y plant yn gweiddi am fala'n groch
Fala'n groch
Bwm bwm
Bwm bwm
Rhoi dima goch am gannoedd

Deryn y Bwn aeth adra
Yn ôl dros ben y Banna
Gweiddai: Meistres, o gwelwch y pres
Gwelwch y pres
Bwm bwm
Bwm bwm
Ges i wrth werthu fala



Credits
Writer(s): Traddodiadol
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link