Aderyn Pur - Live

Aderyn pur a'r adain las, bydd i mi'n was dibryder
O brysur brysia at y ferch lle rhoes i'm serch yn gynnar
Dos di ati, dywed wrthi, 'mod i'n wylo dŵr yr heli
'Mod i'n irad am ei gwelad, ac o'i chariad yn ffaelu â cherdded
O Dduw faddeuo'r hardd ei llun am boeni dyn mor galed

Pan o'wn i'n hoenus iawn fy hwyl, ddiwrnod gŵyl yn gwylio
Canfyddwn fenyw lana 'rioed, ar ysgafn droed yn rhodio
Pan ei gwelais, syth mi sefais, yn fy nghalon mi feddyliais
Dyma ddynas lana'r deyrnas, a'i gwên yn harddu pawb o'i chwmpas
Ni fynswn gredu'r un dyn byw nad oedd hi rhyw angyles.



Credits
Writer(s): Mary Elizabeth Blodwen Hopkin
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link