Yma Mae'r Dreigiau

Y ddraig ydw i ar ymyl y byd
Fi yw'r rhwymau wrth i dy fywyd cyhwfan
Rwy'n gwylio'r moroedd; Lefiathan yn 'stwyrian
Wrth i ti hwylio am eithafoedd y byd

Fi yw'r Lefiathan
Ffyrnig, di-egwan
Rwy'n gwylio'r dyfroedd
Caiff neb eu croesi
Chwedl wyf fi
Sy'n atal y teithwyr
Cynhyrfu'r dyfroedd
Chwalu'r hwylbrennau

Yma mae'r dreigiau
Yma mae'r dreigiau
Yma mae'r dreigiau'n fy ngwarchod i

Heibio fy nhir mae gwlad gwell a gwir
Sy'n ymestyn tu hwnt i fôr Lefiathan
Rhimyn disglair sy'n dymchwel y rhwymau
Tir addewid, a chartref iachâd

Heibio'r ymylon
Creda neu peidia
Mae byd yn bod
Heibio'r môr
'Fedri feistroli
Dyfroedd cythryblus
Cyfarfod dy rhyddid
A chyflawnhâd

Yma mae'r dreigiau
Yma mae'r dreigiau
Yma mae'r dreigiau'n fy ngwarchod i

Ddoi di gen i i'r dyfroedd di-fap
Mentro dy bwysau ar loriau anweledig
Dal dy afael drwy stormydd a hap
Dal i ymlwybro tan doriad y wawr

Cyrraedd y tir
Tu hwnt i'r dreigiau
Gobaith go iawn
A bywyd yn dechrau
Cyrraedd y tir
Tu hwnt i'r dreigiau
Diflannodd y dagrau
Byw ac Iach!

Yma mae'r dreigiau
Yma mae'r dreigiau
Yma mae'r dreigiau'n fy ngwarchod i



Credits
Writer(s): Lowri Mitton
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link