Mae Yna Le

Mae yna le yr aethwn i
Pan fo bywyd yn anodd
Weithie'n ormod i mi
Mae yna le, mae 'na le
Rhyw le yr aethwn i

Y lle 'gallwn fod yn dawel fy myd
Ond pam fod rhaid dianc
I gael heddwch o hyd?
Hwn yw y lle
Hwn yw'r lle
'Lle caf fod yn fi fy hun

Mmm

Mor dlws yw y dail
Ar y gweiriach yn frith
Ac mae holl bwysau bywyd
Yn codi fel gwlith
A llewyrch yr haul
Drwy'r brigau brau
Sy'n goleuo Nos fy Nydd

Pan fo bywyd a'i stwr
Yn fwrn ar fy myd
Mi ddychwelaf at natur
Nol i'r fangre, gynnes glyd
At yr adar a'r coed,
Ger y rhos, ger y rhyd.

A hwn yw y lle
Y dychwelaf rhyw ddydd
Fy hafan wastadol
Fy nefoedd fach gudd
A hwn, ddim bwys be
Hwn yw'r lle
Syn byw'n fy nghalon i



Credits
Writer(s): Rhydian Meilir Pughe
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link