Dyddiau (2022)

Dyddiau'n mynd a dod
Fel se ddim yfory
Ond pan ddaw yfory
Ffeindia'i beth a ddaw ohoni

Ar yr ochr arall
Glaw wedi diflannu
Mae'n agor mas
Mae'r awyr yn las

Gallu derbyn dy gyngor
Heb gorfod osgoi
Beth all ddigwydd
Pan ddaw'r glaw i gwympo
Dros ein cysgod
Beth all ddigwydd?

Caf fy nhynnu nôl ar ddiwedd y daith
Dim edifeirwch a geir am unrhyw graith
Pan fyddaf wedi cyrraedd
Dim angen poeni achos byddaf
Yn edrych nôl ar ddiwedd y daith
Dim amheuon am y dyddiau sydd i ddod

Weithiau mae angen edrych
Tu fewn i'r arwyddion
Mae'r ateb yn cuddio 'mhellach
Tu ôl i wynt a niwl y llwydion

Rhaid dilyn y llwybr
Mae'r sêr yn gosod
Gwelwn y dyddiau gwell
Mae'n nhw'n bendant yn dod

Gallu derbyn dy gyngor
Heb gorfod osgoi
Beth all ddigwydd
Pan ddaw'r glaw i gwympo
Dros ein cysgod
Beth all ddigwydd?

Caf fy nhynnu nôl ar ddiwedd y daith
Dim edifeirwch a geir am unrhyw graith
Pan fyddaf wedi cyrraedd
Dim angen poeni achos byddaf
Yn edrych nôl ar ddiwedd y daith
Dim amheuon am y dyddiau sydd i ddod

Cawn nôl mwy na beth rydym wedi colli
Mwy na beth da ni wedi taflu i ffwrdd
Rwyf wedi rhoi lan gyda'r glaw a'r nafu
Edrych ymlaen yw'r ffordd, yw'r ffordd

Caf fy nhynnu nôl ar ddiwedd y daith
Dim edifeirwch a geir am unrhyw graith
Pan fyddaf wedi cyrraedd
Dim angen poeni achos byddaf
Yn edrych nôl ar ddiwedd y daith
Dim amheuon am y dyddiau sydd i ddod

I ddod



Credits
Writer(s): Mared Griffiths
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link