Darlun Yn Y Nef

Fel plentyn bach derbyniais anrheg bert
Gwybodaeth eang am y sêr uwchben
Edrychais i fyny mewn rhyfeddod llwyr
O lygaid i galon aeth y golau trwy
Ac yn sydyn gobaith llenwodd fy mhen

Yn bell ac yn fler oedd y dotiau bach gwyn
Yn gudd tu ôl goleuni disglair dref
Trwy gysgod o olau gwelais ddelwedd o'r rhai
Oedd yn ddigon disglair i gyfanhau
Y cytser fel darlun yn y nef

A sefais yn syllu ar y harddwch o'm flaen
Yn breuddwydio am lawenydd di-ri
Twymodd y gwres oerfel y nef
A thwymodd yr oerfel ynof i

Dros y blynyddoedd wnes i dyfu'n hen
A'm enaid yn hiraethu fod yn rydd
Ac er roedd y pellter o'm flaen i yn bell
A'm ffrindiau'n disgwyl i mi wybod yn well
Es i 'mlaen tuag at fy ciel etoilé

Ar hyd y daith y sêr oedd fy ngwaith
Cwrddais ddyn arbenigwr yn y maes
Dywedodd i mi yn blwmp ac yn blaen
Mae'r byd yn wahanol wrth deithio ymlaen
A chlywais y sicrwydd yn ei lais

A syllais ar ei eiriau gyda llygaid amheus
A'u hystyr yn fwy amlwg wrth y dydd
Os mae golau yn treulio amser ar ei daith
Yn ôl daeth yr oerfel i mi



Credits
Writer(s): Luke Clement
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link