Troad Y Tymor

Meddyliais ar ofynion di
Methu ffurfio barn yn syth
A nawr fy mhen sydd yn fy mhlu
A thithau'n bell i ffwrdd o'm nyth

Y misoedd diwethaf dwi 'di ffeindio'n hun yn cwympo
Mewn i lefydd dwi erioed di bod o'r blaen
Am gyfnod byr collais fy hun yn fy nychymyg
A'r breuddwydiau'n diogelu rhag y straen
A nawr rwy'n symud 'mlaen a'm ffrindiau'n helpu trwy
Ond bydd amser yn dy gwmni di
Yn siwr o helpu'n fwy

Ar ôl y llwybrau cerddom ni
A'r newidiadau yn eu plith
Dwi dal yn drysu drosot ti
A'th wyneb dal yn dwyn fy chwyth

Ar adegau roedd hi'n teimlo fel ein fod
Yn tyfu'n agos fel dwy goeden yn y pridd
Ond ambell waith roedd flas dy eiriau yn wenwynig
Ac mae'n ffrwythau wedi suro nawr heb sudd

A nawr rwy'n symud 'mlaen a'm ffrindiau'n helpu trwy
Ond bydd amser yn dy gwmni di
Yn siwr o helpu'n fwy

Nawr paid dweud
Dy fod ti
Methu gweld teimladau i
Yn sefyll
Heb arsyll
O'th flaen di

A nawr rwy'n symud 'mlaen a'm ffrindiau'n helpu trwy
Ond bydd amser yn dy gwmni di
Yn siwr o helpu'n fwy



Credits
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link