Er Beth A Ddaw

Mae fy nghalon i yn orlawn gyda phoen a chariad
Sut allai fynd trwy unrhyw mwy o'r fath deimlad
Wrth feddwl amdanat ti a faint wyt ti'n dioddef
Mae ond yn bosib meddwl sut i'th helpu trwy'r fath hunllef

Sut allai i, ddangos i ti, faint dwi'n dy garu di
Ond eto i gyd beth sy'n bwysig i mi

Mae rhaid ti edrych ar ôl dy les dy hun
Mae rhaid ti gweithio ar deimladau anghytûn
Dim ond ystyried yr effeithiau arnat ti
Er beth a ddaw y byddai'n dy garu di

A doedd dim posibilrwydd, i mi droi at gasineb
Gwelais i'r ofn fel ton ar draws dy wyneb
Sut allai deimlo'n grac, gyda chariad fy mywyd
Does dim bai wrth brofi cyfnod dryslyd

Amser o hyd, yw'r ateb i gyd, i wella clwyfau'r byd
Ond ar ddiwedd y dydd, beth sy'n bwysig i mi

Mae rhaid ti edrych ar ôl dy les dy hun
Mae rhaid ti gweithio ar deimladau anghytûn
Dim ond ystyried yr effeithiau arnat ti
Er beth a ddaw y byddai'n dy garu
Y byddai'n dy garu, y byddai'n dy garu di



Credits
Writer(s): Luke Andrew Clement
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link