Cymer Fi, Achub Fi

Sut wyt ti? Dywed sut wyt ti yn awr?
Sgen ti ddau funud i'w sbario i mi?
Sut ydw i'n mynd i'th gadw i mi fy hun?
Rhaid i rywun neud rhywbeth amdanom ni

Wel fi ydi'r oen wrth yr allor
a dwi'n unig heb unman gen i i ffoi
ac mae pethe yn poethi heno
dim digon o amser, cymaint gen i i'w roi...

Cymer fi, achub fi, cymer fi yn gyfan a'nghymryd i'r seithfed ne'
Cymer fi, achub fi, dal fi'n agos cariad, a dal yr hualau yn dynn

Sut wyt ti? Dywed sut wyt ti erbyn hyn?
Wyt ti'n dechrau difaru dy enaid nawr?
Sut ydwi'n mynd i'th gadw i mi fy hun?
Ma hi, ma hi mor anodd cadw draw

Ma ofn yn meddiannu heno
dwi ofn yn tywyllwch, heb unman i ffoi
a dwi iso mynd 'nol i' mhlentyndod
Tyrd yn ol i'n amddiffyn, rho'r cyfan sy gen ti i roi...



Credits
Writer(s): Caryl Parry Jones, Nigel Hopkins
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link