Suo Gan

Huna blentyn ar fy mynwes
Clyd a chynnes ydyw hon
Breichiau mam sy'n dynn amdanat
Cariad mam sy dan fy mron
Ni chaiff dim amharu'th gyntun
Ni wna undyn â thi gam
Huna'n dawel, annwyl blentyn
Huna'n fwyn ar fron dy fam

Paid ag ofni, dim ond deilen
Gura, gura ar y ddôr
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua, sua ar lan y môr
Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw
Gwena'n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw



Credits
Writer(s): Dp, John Kevin Mccarthy
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link