Pe Cawn i Hon

Pe cawn i hon yn eiddo i mi
O galon yn fy ngharu
Ni fynnwn ddim o'i chyfoeth hi
Rhag ofn i'm serch glaearu
Mae rhywbeth yn ei gwisg a'i gwedd
Ac yn ei hadgwedd hygar
Rhaid iddi fod yn eiddo yn eiddo i mi
Tra byddom ar y ddaear

Pe cawn i hon yn eiddo i mi
O fel gwnawn ei mynwesu
Mae dweud ei henw ar hin oer
Yn gwneud i'm corff gynhesu
Ond pe bai hi yn eiddo i mi
A'i serch yn dal yn glaear
Ni fynnwn i mohoni hi
Ar gyfrif ar y ddaear



Credits
Writer(s): Pd Traditional, J Baird
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link