Yr Eneth Ga'dd ei Gwrthod

Ar lân hen afon Ddyfrdwy ddofn
Eisteddai glân fi yn unig
Gan ddistaw sibrwd wrth'i hun
"Gadawyd fi yn unig
Heb gâr na chyfaill o fewn y byd
Na chartref chwaith fynd iddo
Drws tŷ fy nhad sydd wedi'i gloi
Rwy'n wrthodedig heno"

Mae bys gwaradwydd ar fy ôl
Yn nodi fy ngwen didau
A llanw 'mywyd wedi ei droi
A'i gladdu dan y tonnau
Ar allor chwant aberthwyd fi

Do! collais fy morwyndod

A dyna'r achos pa'm yr wyf

Fi heno wedi 'ngwrthod

"Ti frithyll bach, sy'n chwareu'n llon
Yn nyfroedd glân yr afon

Mae gennyt ti gyfeillion fyrdd
A noddfa rhag gelynion

Cei fyw a marw o'dan y dwr
Heb undyn dy adnabod

O! na chawn innau fel tydi
Gael marw, a dyna ddarfod "

Y bore trannoeth cafwyd hi
Yn nyfroedd glan yr afon
A darn o bapur yn ei llaw
Ac arno'r ymadroddion
"Gwnewch imi fedd mewn unig fan
Na chodwch faen na chofnod
I nodi'r fan lle gorwedd llwch
Yr Eneth ga'dd ei gwrthod"



Credits
Writer(s): Traditional, Kelvin Thomas
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link