Tragwyddoldeb

Tragwyddoldeb
Tragwyddoldeb
Beth yw'th hyd di
Dragwyddoldeb?

Atat cyrchu a wna amser
Fel march rhyfel yn ei gryfder
Fel rhedegwyr, y cyflyma
Llong i borth, neu saeth o fwa
Megys pelen gron gyfanedd
Heb fod iddi ben na diwedd
Felly Tragwyddoldeb yntau
Sydd heb ddiwedd ac heb ddechrau

Tragwyddoldeb
Tragwyddoldeb
Beth yw'th hyd di
Dragwyddoldeb?

Cylch wyt ti sy'n ddiderfynol
'nawr tragywydd yw dy ganol
Tu hwnt cyraedd neb creadur
Allu rhoddi arnat fesur
Gall aderyn gym'ryd ymaith
Mewn maith amser fynydd helaeth
Trwy ddod unwaith bob cann mlynedd
Gwedi hyn – hyd nes dy ddiwedd

Tragwyddoldeb
Tragwyddoldeb
Beth yw'th hyd di
Dragwyddoldeb?



Credits
Writer(s): Cerys Hickman
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link