Y Môr O Wydr
Fel ar y môr o wydr
Rwy'n brysio o ma'n brysur tua thrag'wyddoldeb
O dwg fi o'r dyfnderoedd
I nofio tua'r nefoedd mewn prysurdeb
Un ran, wy'n geisio i f'enaid gwan
Nid wrth im' rwyfo'n rhywfodd
Y deuaf o'r dyfndero'dd i ben fy siwrne
O dwg fy enaid clwyfus
O'r dyfroedd dyfnion dyrus i'm tirion artre'
Mae'm taith, trwy'r tonnau mawrion maith
A'r ochor draw ca'i ganu'
Ac fyth ryfeddu'th waith
Defnyddiau i gyd a doddant
A'r dda'r a'r nef a grynant trwy ddirfawr allu
Bydd ser y nef yn syrthio
A'th air yn cael ei wirio yn eglur ini
Does le in' yna yn y ne'
Er dim ni ddeu'm i dreio wrth droedio maes o dre
Fel ar y môr o wydr
Rwy'n brysio oddiyma o brysur tua thrag'wyddoldeb
O dwg fi o'r dyfnderoedd
I nofio tua'r nefoedd mewn prysurdeb
Fe gân yr udgorn o dy fla'n
A'r byd yn wenfflam olau
A'r mor a'i donau'n dân
Y dua'r haulwen sy'n y ffurfafen
Y syrth pob seren
Nes clywo'r meirw o'r bedd yn groyw
Llef yn eu galw
Mewn synus eiriau'n d'we'yd wrth y creigiau
"Dewch am ein penau"
Mewn gwisgoedd gwynion, a'u tanau'n dynion
Yn canu'n eon
Mae yna filoedd draw yn y nefoedd
Ddaeth o'r dyfnderoedd
A'r tan a'r dwfr sydd fel yn bentwr
Dwg fi sydd wanwr
Sef arch i'm cadw
Tro'i ar y dilnw
Cei glod i'th enw
Mae'n lampau'n diffodd
Nid oeddem barod
Waith ini wrthod ei hynod alwad e'
Fel ar y môr o wydr
Rwy'n brysio o ma'n brysur
Tua thrag'wyddoldeb
Rwy'n brysio o ma'n brysur tua thrag'wyddoldeb
O dwg fi o'r dyfnderoedd
I nofio tua'r nefoedd mewn prysurdeb
Un ran, wy'n geisio i f'enaid gwan
Nid wrth im' rwyfo'n rhywfodd
Y deuaf o'r dyfndero'dd i ben fy siwrne
O dwg fy enaid clwyfus
O'r dyfroedd dyfnion dyrus i'm tirion artre'
Mae'm taith, trwy'r tonnau mawrion maith
A'r ochor draw ca'i ganu'
Ac fyth ryfeddu'th waith
Defnyddiau i gyd a doddant
A'r dda'r a'r nef a grynant trwy ddirfawr allu
Bydd ser y nef yn syrthio
A'th air yn cael ei wirio yn eglur ini
Does le in' yna yn y ne'
Er dim ni ddeu'm i dreio wrth droedio maes o dre
Fel ar y môr o wydr
Rwy'n brysio oddiyma o brysur tua thrag'wyddoldeb
O dwg fi o'r dyfnderoedd
I nofio tua'r nefoedd mewn prysurdeb
Fe gân yr udgorn o dy fla'n
A'r byd yn wenfflam olau
A'r mor a'i donau'n dân
Y dua'r haulwen sy'n y ffurfafen
Y syrth pob seren
Nes clywo'r meirw o'r bedd yn groyw
Llef yn eu galw
Mewn synus eiriau'n d'we'yd wrth y creigiau
"Dewch am ein penau"
Mewn gwisgoedd gwynion, a'u tanau'n dynion
Yn canu'n eon
Mae yna filoedd draw yn y nefoedd
Ddaeth o'r dyfnderoedd
A'r tan a'r dwfr sydd fel yn bentwr
Dwg fi sydd wanwr
Sef arch i'm cadw
Tro'i ar y dilnw
Cei glod i'th enw
Mae'n lampau'n diffodd
Nid oeddem barod
Waith ini wrthod ei hynod alwad e'
Fel ar y môr o wydr
Rwy'n brysio o ma'n brysur
Tua thrag'wyddoldeb
Credits
Writer(s): Cerys Hickman
Lyrics powered by www.musixmatch.com
Link
Other Album Tracks
© 2024 All rights reserved. Rockol.com S.r.l. Website image policy
Rockol
- Rockol only uses images and photos made available for promotional purposes (“for press use”) by record companies, artist managements and p.r. agencies.
- Said images are used to exert a right to report and a finality of the criticism, in a degraded mode compliant to copyright laws, and exclusively inclosed in our own informative content.
- Only non-exclusive images addressed to newspaper use and, in general, copyright-free are accepted.
- Live photos are published when licensed by photographers whose copyright is quoted.
- Rockol is available to pay the right holder a fair fee should a published image’s author be unknown at the time of publishing.
Feedback
Please immediately report the presence of images possibly not compliant with the above cases so as to quickly verify an improper use: where confirmed, we would immediately proceed to their removal.