Casanova

Dio'm yn hogyn hud
Dio'm yn unrhyw fath o ddewin
Bensodiasepîn sy'n troi dy ddwr i mewn i wîn
Dim ei dricia'
Dio'm yn slic, na
Fyddi di dal efo cleisia'
Ar dy linia'
Ond fyddi di'm yn cofio dim

Fel llew ar ôl gazelle
Mae o'n syllu yn frwdfrydig
Ti'n gyfareddol ac yn ddel
Mae o'n chwantus ac yn lwglyd
Yn trio'i ora'
Gyda'i eiria'
I dy swyno di i'r laddfa
Ti'n amlwg heb ddiddordeb
Ond dio'm yn poeni dim

'Dio'm yn Gasanova, na
Chwerw yw ei chwarae
Fel ti'n llithro fewn i'r coma
Dio'm yn Gasanova
Nei di ddeffro efo cleisiau
A creithiau a haint ne ddau

O gwylia di dy hun
Ma'r sglyfath 'ma'n anelu
I gael chdi ar ben dy hun
I gael chdi yn ei wely
Ac os ti'n anghytuno
Ganddo ddulliau annymunol
I gael ffordd ei hun
A cariad fyddi di'm yn cofio dim

'Dio'm yn Gasanova, na
Chwerw yw ei chwarae
Fel ti'n llithro fewn i'r coma
Dio'm yn Gasanova
Nei di ddeffro efo cleisiau
A creithiau a haint ne ddau

'Dio'm yn Gasanova, na
Chwerw yw ei chwarae
Fel ti'n llithro fewn i'r coma
Dio'm yn Gasanova
Nei di ddeffro efo cleisiau
A creithiau a haint, ie

'Dio'm yn Gasanova, na
Chwerw yw ei chwarae
Fel ti'n llithro fewn i'r coma
Dio'm yn Gasanova
Nei di ddeffro efo cleisiau
A creithiau a haint ne ddau



Credits
Writer(s): Merrill Nisker, Mignon Bear
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link