Dim Byd O Bwys

Ceisio rhoi llafar i brofiada
Trwy gymhariaethau a throsiada
Ond sut fedra i rannu fy nheimlada
Os dwi'n teimlo dim yn y lle cynta

Ma'r gân yn wahanol
Ond mond yn gerddorol
Ailgylchu syniadau
Aileirio storiau
A gafodd eu hadrodd ganrifoedd yn ôl
Ma'r gân yn wahanol
Ond dio'm yn ddiddorol
Aileirio storiau hên

Dwi'm yn disgwyl chi wrando, na chlapio, na sefyll yn y blaen
Dim cymeradwyaeth, canmoliaeth, na, neb yn canu 'mlaen
Sgenai'm diawl o hawl i gwyno, sgenai'm byd o bwys i ddweud
Mond geiriau gwag am hunnan barch a dihidrwydd

Rhyw gân anangerddol
Gan ddyn sy'n galw ei hun yn gerddor
Aberthu ei enaid i werthu CDs
Gan ganu rhyw eiriau sy'n meddwl dim byd

Tydi hyn 'im yn hawdd
Na, tydi hyn 'im yn hawdd
Sgenai ddim y ddawn i blesio pawb



Credits
Writer(s): Hywel Lloyd Pitts, Rhys Dafydd Evans, David Michael Lyndon Thomas, Daniel Rhys Owen
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link