Calon Lân

Nid wy'n gofyn bywyd moethus
Aur y byd na'i berlau mân
Gofyn rwyf am galon hapus
Calon onest, calon lân

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos
Dim ond calon lân all ganu (canu)
Canu'r dydd a chanu'r nos

Pe dymunwn olud bydol
Hedyn buan ganddo sydd
Golud calon lân, rinweddol
Yn dwyn bythol elw fydd

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos
Dim ond calon lân all ganu (calon lân all ganu)
Calon lân

Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad
Roddi i mi galon lân

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos
Dim ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos
Dim ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos

Calon lân
Calon lân
Calon lân



Credits
Writer(s): Katherine Jenkins, Nick Patrick, James Banbury, Traditional
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link