Gwahoddiad

Mi glywaf dyner lais,
Yn galw arnaf fi,
I ddod a golchi 'meiau gyd,
Yn afon Calfari.

Arglwydd, dyma fi
Ar dy alwad di,
Golch fi'n burlan yn y gwaed
A gaed ar Galfari.

Yr Iesu sy'n fy ngwadd,
I dderbyn gyda'i saint,
Ffydd, gobaith, cariad pur a hedd,
A phob rhyw nefol fraint.

Arglwydd, dyma fi
Ar dy alwad di,
Golch fi'n burlan yn y gwaed
A gaed ar Galfari.

Gogoniant byth am drefn,
Y cymod a'r glanhad;
Derbyniaf Iesu fel yr wyf,
A chanaf am y gwaed.

Arglwydd, dyma fi
Ar dy alwad di,
Golch fi'n burlan yn y gwaed
A gaed ar Galfari.
Golch fi'n burlan yn y gwaed
A gaed ar Galfari.

Amen, Amen, Amen, Amen



Credits
Writer(s): Jeffrey John Howard, Ieuan Gwyllt, Lewis Hartsough
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link