Y Lluniau

Coda o dy 'lunie
Torra lawr y ffinie
Byta bwyd o binie

A lle mae'r F-ing siswrn
Nes di benthyg o i'r sipsiwn
Sibrwd ac yn sisial

Yn datod y cymylau
Oedd chdi efo rhyw geffylau
Pawb yn tynnu stumie

Amneidio am afalau
Trip ysgol Abertawe
Atebion ar dy lawes

Dileua y gorffenol
Mae o'n rhy wahanol
Dio ddim yn perthyn rwan

Felly coda fyny'r corwynt
Hawlio yn ol Epynt
Dipyn bach o helynt

'Dyro olau ar dy eiriau
Dyro afael yn y gwir
Dyro i ni sypiau grawnwin
Grawnwin aeddfed Canaan dir
Er mor felys yw y grawnwin
Er mae'n cludo ffordd mor bell
Yn y wlad lle maent yn tyfu
Diau byddent llawer gwell'

Nain a Taid a plentyn
Hen Daid yn smygu'i getyn
Ymreiddio i'r hen elyn

Golffio trwy melinau gwynt
Colli sawl pelen
Yfed fel Sue-Ellen

Gwenu megis gatiau
Swyddfeudd yn gwisgo hetiau
Wyliau heb adnoddau

Bu farw Maradona
Tra dwi'n edrych trwy llyfrau tonna
Ceisio dwyn y geiriau, fel y gola
(Heddwch i'w lwch o)

Torra fyny'r lluniau
Ailgylcha nhw

Plis, jyst torra fyny'r lluniau plis
Plis jyst ailgylcha nhw
Ailgylcha nhw



Credits
Writer(s): Aled Roberts
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link