Rhy Fuan

Di bod yn cerdded ar y lon anghywir
Am resymau technegol mi gefais fy mhleidleisio yn llywydd
A noson o gwsg cyn pigo fyny'r trywydd
Ddim yn un teg, teimlo fel y tywydd

A ma'i dal rhy fuan
A mae'r pennau bach yn troi fel tylluan

Isafbwyntiau'r is-ymwybod ar 'Youtube'
Y golygfeudd pan o ni'n gwrthod gwisgo mwgwd
I fod yn adeiladol mi gymai dair siwgr
Ag addo hyn ymlaen i fod yn llai llwgr

Diodde gyda'r offrwm
Lladd y dyn gyda gwn
Chwarae dy offeryn
Y dagrau, bob diferyn
Yn troi mewn i Dryweryn
Ond be sy'n digwydd wedyn?
Mae'n rhy fuan

Eistedd yn y cyntedd
Ar ol y tro cyntaf
Rhywun arall yn y cawod
O ni'n teimlo'n eitha afiach
Pam dwi mor wahanol?
Dwisio bod fel pawb arall
Ond wahanol
Mae'n rhy fuan
Ond dwi'm yn son am freuddwydio
Mae'r ymenydd yn crwydro
Mi welai di rhywdro
Mae gennai ddiafol i'w frwydro
Mae'n rhy fuan

A ma'i ddal rhy fuan
A'r pennau bach yn troi fel tylluan

Rhy fuan



Credits
Writer(s): Aled Roberts
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link