Esgyrn Dan Y Patio

Esgyrn dan y patio
Esgyrn dan y tai
Olion cambyhafio
Nawr dwi'n teimlo'n llai
Creu geiriau hefo beiro
Ysbrydion yn y ty
Rhy hwyr i ymddihaero
I'r ysbryd yn ty ni

Esgyrn dan y patio
Esgyrn dan y tai
Ti yn dy westy yn ymlacio
A rhywun arall yn cael bai
Atgofion yn y sied
Y moddion dan dy wely
A dwi dal i glywed sain dy drwmped
Tra dwi'n trio gwylio teli
Ond peidiwch talu trwydded
Am eich 'Catch-up TV'
A peidiwch byth talu teyrnged i ni

Mae na esgyrn dan y patio
Mae na esgyrn dan y tai
Dwi byth yn gallu teimlo
Ond dwi'n gwenu mewn labordai

Mae na esgyrn dan y patio
Ysbrydion yn y ty
Blynyddoedd yn cynllunio
Ond 'paid a synnu'
Paid a dibynnu
Y genedlaethol wyr am hynny
Paid a crynu
Ni'n trio creu recordiau cymraeg
Paid a poeni
Amdan y pethau professiynol
Ni yw'r Cymry
Ha ha ha

Mae na esgyrn dan y patio
Mae na esgyrn dan y tai
Ma na olion cambyhafio
A nawr dwi'n teimlo'n llai

Nawr dwi'n teimlo'n llai



Credits
Writer(s): Aled Roberts
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link