Rhyl

A 'ma na rhywun wrth y drws eto
Creu celwyddau fel Geppetto
Herio fy nychymig
Sgennai'm byd i'w gynnig

'Yr efengyl yn ol Rhyl'

Ydio'n rhy hwyr i ymddiheuro?
Dwi heb dyfeisio'r geiriau
Ond diolch am alw heibio
Dwi dal yn gynas dan y cynfas
Ymlysgo o fy mhydew
Lawr i'r siop elysennol
Rhyw fath o baradwys
Ond paid a gymryd o'n llythrennol

'Yr efengyl yn ol Rhyl'

Pryd mae'r dafarn yn agor?
Dwi'm yn meddwl fedrai gymryd rhagor
Mae na oriawr ar fy ngarddwn
Ond dwi'n rhy wan i godi angor
Meddyliais i am ennyd
Be am wella fy afiechyd
Ymchwylio fy hapusrwydd
Mynychu lle cyfarwydd

A boed yn y cwrt, yn y llys, yn y buarth
Dwi'm digon da i dod i nabod bobl diarth
'Yr efengyl yn ol Rhyl'

Mamau efo'r run brawd
Disgyn ar dy anffawd
Yn Llwyn Balmoral
Dangosais di dy gwmpawd
Ac o 'na griw o derfysgwyr
Ar Stryd Y Baddon
Oedd genna nhw'm calonnau
O nhw'n eitha gweddol
O na 'drugs raid'
Ar East Parade
Tra o ni'n gwthio ceiniogau
Draw yn yr arced
Es i draw i Bodfor
O ni'n nofio yn y cilfor
Nath rhywun dwyn fy nhrwsus
Ac oedd bob dim yn borffor

O ni yn Y Rhyl

Cadwa pethe'n Rhyl

O ni yn Y Rhyl

Cadwa fo'n Rhyl



Credits
Writer(s): Aled Roberts
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link