Brenhines Aberdaron

Fe gerddai lawr i'r pentre
Bob bore'n arian byw
I weld y byd a'i bethe lawr y rhiw
Lawr y rhiw
Pob un yn ei hadnabod
Roedd hi'n ddynes o mor glên
Mor barod ei chymwynas boed i'r ifanc neu yr hen

Wwww
Brenhines Aberdaron ydoedd hi
Wwww
Ie Cissie Morris - Anti Sis i ni

Tu ôl drws coch Ty'r Ysgol
Fe guddiai boenau'r byd
Tywysog ei gymdogaeth
A rwygwyd am byth o'i byd
Colli mab, ac ŵyr mor greulon
Colli popeth yn ei sgîl
Ond roedd Duw yn cynnig gobaith
Yn y Capel bob dydd Sul

Wwww
Brenhines Aberdaron ydoedd hi
Wwww
Ie Cissie Morris - Anti Sis i ni

Mae'i hysbryd ar y rhostir
Yn y creigie, yn y môr
Ei chwerthiniad glyw'n yr awel
O Rhoshirwaun draw i'r Ffôr
Yn y Ship ac yn Nhŷ Newydd
Lawr cornel pob un stryd
A thra bydd Aberdaron
Bydd ei hysbryd fyw o hyd

A heddiw yn Nhŷ'r Ysgol
Mae gwacter lond y lle
Ni chaf alw heibio eto
Am fara ffresh i de
Llawn tlotach fydd y pentre
Heb gwmni'r ddynes fwyn
Wnaeth yn fawr o'r hyn a gafodd
Mor dawel a di-gŵyn

Wwww
Brenhines Aberdaron ydoedd hi
Wwww
Ie Cissie Morris - Anti Sis i ni
Ie Cissie Morris - Anti Sis i ni
Ie Cissie Morris - Anti Sis i ni



Credits
Writer(s): Rhydian Meilir Pughe
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link