Mr G

Mae'n edrych yn gomic yn ei sbectol mawr du
Ac mae'n eistedd yn fodlon yng nghwmni ei hun
Ac mae'i drwyn o yn biws, a'i fwstash o yn fawr
Mae'n hen bryd iti'i throi hi am adre yn awr!
Mr G, Mr G, lle wyt ti yn mynd?
A beth ydy dy hanes? Dwed wrtha'i fy ffrind!
Chos dwi rioed di dy weld di yn sobor o'r blaen
Mr G - ti di meddwi yn gocls!

Pan ddaw diwedd y nos - ac mae'r bar bron a cau
Mae'n cael un peint bach arall, dim mond un peint neu ddau
Ac mae ar ei ore' - a dio'm isio mynd adre
Mae o'n eistedd yn dawel, yn pwyso'r y bar
Yn chwilio llawennydd yng ngwaelod y jar
Ac mae ar ei ore', a dio'm isio mynd adre

Mae ei gorrun yn foel dan y 'comb-over' blêr
Ac ei feddwl yn bell - rhwng y lleuad a'r sêr
Ac mae'n gwenu yn ddrygiog, fel plentyn bach drwg
Mr G rwyt ti'n gr'adur bach doniol!
A sut ei di adre? Chos mae'n tywallt y glaw!
Nei di gerdded 'rholl ffordd, a dy fag yn dy law?
Yn ôl i dy gwag - mor unig dy fyd
yn byw ac yn bod yn y dafarn o hyd

Pan ddaw diwedd y nos - ac mae'r bar bron a cau
Mae'n cael un peint bach arall, dim mond un peint neu ddau
Ac mae ar ei ore' - a dio'm isio mynd adre
Mae'n eistedd yn dawel, yn pwyso'r y bar
Yn chwilio llawennydd yng ngwaelod y jar
Ac mae ar ei ore', a dio'm isio mynd adre

Pan ddaw diwedd y nos - ac mae'r bar bron a cau
Mae'n cael un peint bach arall, dim mond un peint neu ddau
Ac mae ar ei ore' - a dio'm isio mynd adre
Mae'n eistedd yn dawel, yn pwyso'r y bar
Yn chwilio llawennydd yng ngwaelod y jar
Ac mae ar ei ore', a dio'm isio mynd adre



Credits
Writer(s): Rhydian Meilir Pughe
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link