Fe Godwn Ni

Fe godwn ni
Fe godwn ni
A chawn dorri'n rhydd o ormes oesau fu
Fe godwn ni

Dros ganrifoedd maith o ormes
Cymru fach fu'n destun gwawd
A llywodraeth fawr brydeinig
Yn ein cadw dan y fawd
Wedi plygu i'w rheolaeth
Wedi derbyn pob sarhad
Hwn yw'r cyfle i weithredu
Ac ailafael yn ein gwlad

Fe godwn ni
Fe godwn ni
A chawn dorri'n rhydd o ormes oesau fu
Fe godwn ni

Adeiladwn Gymru newydd
Ailddarganfod ein gwir lais
Dysgu credu yn ein hunain
Pob un Cymro a Chymraes
Gallwn rannu ein diwylliant
Arddel iaith, a chadw stâd
Cadw draw pob llanw estron
Rhag meddiannu ein holl wlad

Fe godwn ni
Fe godwn ni
A chawn dorri'n rhydd o ormes oesau fu
Fe wynebwn pob yfory gyda hyder yn ein cân
Fe godwn ni
Fe godwn ni

Cydfloeddiwn ni ein hanthem
Cwm Rhondda, Calon lan
Cydganwn gydag angerdd
A'n calonnau oll ar dan
Mae llais Glyndwr yn galw
Ar y Cymry'n ddi-wahan
I arddel eu Cymreictod
Tu hwnt i nodau'r gan

Fe godwn ni
Fe godwn ni
A chawn dorri'n rhydd o ormes oesau fu
Fe wynebwn pob yfory gyda hyder yn ein cân
Fe godwn ni
Fe godwn ni

Fe godwn ni
Fe godwn ni
A chawn dorri'n rhydd o ormes oesau fu
Fe wynebwn pob yfory gyda hyder yn ein cân
Fe godwn ni
Fe godwn ni
Fe ddaw ein dydd
Fe godwn ni



Credits
Writer(s): Rhydian Meilir Pughe
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link