Y Tir A'r Môr

Methu'n lan a deall lle mae'r amser wedi mynd
Blynyddoedd wedi gwibio heibio ar adain y gwynt

Cofio pan o'n ni yn blantos bach drwg
Mond chdi a fi yn erbyn y byd
Mond chdi a fi yn erbyn y byd

Does dim yn y byd fatha ffrindie da
A chdi sy'n gyfaill triw i mi
Yn gadarn a chryf - wastad yno i mi
Mae'r cwlwm mor gry'
Fy nghyfaill i - ti'n gefn i fi
Fel llanw a thrai - fe weli di rai
Ryw ffrindie sydd yn mynd a dod
Ond heb dy gwmni di - dwi'n dda i ddim byd
Dau enaid hoff gytun - fel y tir a'r môr

Fel y tir a'r...

Fe gei bwyso ar fy ysgwydd i pa bynnag beth a ddaw
Ti'n fy nabod i mor dda a minnau chdi fel cefn fy llaw
Dros wydryn neu ddau - rhoi'r byd yn ei le
Ar noson glir ynghanol yr haf
Mae cwmni ffrind yn gwmni mor braf

Does dim yn y byd fatha ffrindie da
A chdi sy'n gyfaill triw i mi
Yn gadarn a chryf - wastad yno i mi
Mae'r cwlwm mor gry'
Fy nghyfaill i - ti'n gefn i fi
Fel llanw a thrai - fe weli di rai
Ryw ffrindie sydd yn mynd a dod
Ond heb dy gwmni di - dwi'n dda i ddim byd
Yn union fel y tir a'r môr
Tir a'r môr
Fel y tir a'r môr

Methu'n lan a deall lle mae'r amser wedi mynd
Amser wedi mynd



Credits
Writer(s): Rhydian Meilir Pughe
Lyrics powered by www.musixmatch.com

Link